Mae staff pedair canolfan waith yng Nghymru ar streic heddiw fel rhan o ymgyrch undeb y PCS y erbyn yr hyn mae nhw’n ei alw yn “amodau gwaith llym”.
Bydd y gweithwyr yn swyddfeydd Bangor, Penybont ar Ogwr, Casnewydd a Doc Penfro ymhlith y 6,000 o weithwyr mewn 32 o ganolfannau cyffelyb led led gwledydd Prydain sydd yn ymuno efo’r streic.
Mae staff yma yn ymdrin â galwadau gan bobl sy’n hawlio budd-daliadau ac mae Undeb y Gweithwyr Cyhoeddus a Masnachol, y PCS yn honni bod y gweithwr yn cael eu gorfodi i ateb ymholiadau yn sydyn ac felly yn eu hatal rhag cynnig y gwasanaeth mae pobl ei angen.
“Mae’r canolfannau galwadau yma yn darparu gwasanaeth hanfodol,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka. “Mae’r ymholiadau yn gallu bod yn gymhleth, ac mae pobl sy’n cael trafferth deall a defnyddio’r sustem fudd-daliadau yn aml ar ben eu tennyn, ond mae staff yn cael eu gorfodi i ddod â’r galwadau i ben cyn gynted â phosib er mwyn cyrraedd rhyw darged artiffisial.”
Ychwanegodd bod prinder staff hefyd yn gwneud drwg yn waeth.
Dywed y cyflogwyr bod targedau delio â galwadau wedi newid i fod yn llawer mwy hyblyg ond yn ôl yr undeb mae’r drefn yn parhau i olygu bod ateb galwad byr yn well o safbwynt targedau nag ateb un hir.