Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i ddyn ymosod ar ferch 19 oed ym Mangor dydd Iau diwethaf.
Roedd y ferch yn cerdded ar hyd Ffordd Ffriddoedd ym Mangor Uchaf ychydig wedi dau o’r gloch y bore pan wnaeth dyn ymosod yn rhywiol arni ger cyffordd Trem Elidir.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn tua 5.10 o daldra, yn dew ac yn gwisgo balaclafa du, siaced tebyg i dracwisg neu ‘shellsuit’ dywyll a siorts at ei bengliniau. Fe wnaeth o redeg i gyfeiriad Ffordd Belmont ar ôl yr ymosodiad.
Y Ditectif Arolygydd Gareth Evans sy’n arwain yr ymchwiliad a dywedodd bod y ferch yn weddol wedi’r ymosodiad.
“Ychydig iawn o droseddau o’r fath sy’n digwydd yn yr ardal hon diolch i’r drefn, ond mae’r digwyddiad hwn wedi gadael un ferch ifanc yn teimlo’n ofidus ac yn fregus iawn. Ar ei rhan hoffwn apelio ar unrhyw aelod o’r gymuned sydd ag unrhyw wybodaeth i ddod ymlaen er mwyn ein helpu ni i ddal y dyn yma cyn gynted â phosibl”
Gellir cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.