Neuadd y Ddinas Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahodd Gemau’r Gymanwlad i’r brifddinas yn 2026.

Dywedodd rhaglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y bore yma bod astudiaeth dichonolrwydd eisoes ar y gweill mewn cydweithrediad â Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Mae llefarydd ar ran y Cyngor yma, Chris Jenkins, wedi dweud nad oes penderfyniad eto ond bod sawl cyfarfod wedi ei gynnal i edrych ar y gôst a leoliadau posibl ond y bydd angen sawl astudiaeth arall cyn ymestyn unrhyw wahoddiad ffurfiol.

Gwaddol y gemau Olympaidd?

Roedd Caerdydd yn gartref i rai o gemau pêl-droed gemau Olympaidd Llundain 2012 ac mae arweinydd Cyngor Caerdydd Heather Joyce wedi galw am ymgyrch i gadw y cylchoedd Olympaidd sydd ar hyn o bryd i’w gweld yng nghanol y briffddinas.

Bydd y gwaith o dynnu’r cylchoedd i lawr a gosod symbolau’r gemau Paraolympaidd yn eu lle yn cychwyn yn fuan a chredir y buasai’r gôst o gludo’r cylchoedd Olympaidd a’u hail godi mewn rhan arall o Gaerdydd tua £40,000.

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill  saith medal yn y gemau Olympaidd a dywedodd y Cynghorydd Joyce ei bod wrth ei bodd efo cyfraniad Caerdydd i’r cyfan.

Yn y cyfamser mae’r Athro Laura McAllister, cadeirydd Chwaraeon Cymru wedi gawl ar ysgolion i wneud eu rhan er mwyn sicrhau bod plant yn cael cymeryd rhan mewn addysg gorfforol.

“Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod plant yn datblygu a chynnal cariad at chwaraeon, “ meddai. “Alla’i ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd addysg yn hyn o beth.”

Dywedodd y dylai pob plentyn gael dwy awr o addysg gorfforol yr wythnos yn yr ysgol a theirawr o chwaraeon allgyrsionl eu gymunedol yn ychwanegol at hynny.