Mae adroddiadau yn y Guardian wedi datgelu fod cwmni preifat yn Sir Fynwy’n cyflogi carcharorion o garchar agored cyfagos am £3 y diwrnod.

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder fod dwsinau o bobol o garchar Prescoed wedi gwneud cyfnod o “brofiad gwaith” â chwmni Becoming Green.

Mae’r cwmni preifat sy’n hybu’r defnydd o ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy yn cyflogi’r carcharorion ar gyfradd o 40 ceiniog yr awr i dderbyn galwadau ffôn yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Ers i’r carcharorion ddechrau gweithio yno fis Tachwedd, mae nifer o weithwyr eraill wedi cael eu diswyddo.

Dywedodd rhai o’r cyn-weithwyr yno fod o leiaf 17 o bobol, nad oedd yn garcharorion, wedi’u gorfodi i adael eu swyddi ers Nadolig y llynedd.

Ond dywed y cwmni bod diswyddiadau yn arferol mewn canolfan alwadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oedden nhw’n cael cyflogi mwy na 20% o’i gweithlu o’r carchar o dan y cynlluniau.

Yn ôl y Guardian, mae pobl sy’n gweithio yn y sector carchardai wedi dweud bod y cynllun yn “warthus” ac yn ”ddatblygiad pryderus”.