Mae arbenigwr trafnidiaeth wedi rhybuddio y bydd y gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru a’r Cymoedd yn dibynnu ar ddatblygiadau yn ne-ddwyrain Lloegr.

Dim ond ar ôl adnewyddu’r system yn Essex y bydd trenau ar gael i gynnal y gwasanaeth newydd, meddai Stuart Cole wrth Golwg360 ar Faes yr Eisteddfod.

Ac fe ddywedodd wrth gynghorau sir Penfro a Chaerfyrddin mai dyma’r amser iddyn nhwthau ystyried buddsoddi i ymestyn y trydaneiddio i Gaerfyrddin.

‘Amseru’n allweddol’

Trenau ail-law o Essex fydd yn cael eu hadnewyddu ar gyfer leiniau’r De a’r Cymoedd, meddai Stuart Cole ac, er y byddan nhw fel trenau newydd, fe allai’r amseru fod yn dyngedfennol.

Os bydd gohirio gyda datblygiadau yn Essex, fe fydd y trydaneiddio yng Nghymru’n gorfod oedi hefyd y tu hwnt i 2018 ac fe allai hynny olygu oedi hefyd cyn ail-hysbysebu trwydded Arriva Cymru i gynnal y gwasanaeth.

Amseru sy’n bwysig o ran yr ymestyn i Gaerfyrddin hefyd, meddai – fe fyddai parhau gyda’r gwaith am ychydig filltiroedd pellach yn awr yn llawer rhatach na chael cynllun trydaneiddio arall ar wahân yn ddiweddarach.

‘Am wneud lles’

Ond does gan Stuart Cole ddim amheuaeth am werth y datblygiad – fe fydd yn rhoi hwb economaidd i’r ardal, meddai. Ac fe fyddai peidio wedi rhoi neges i’r gwrthwyneb.

“Os na fyddai’r Llywodraeth wedi trydaneiddio i Ben-y-bont ac Abertawe, byddai buddsoddwyr wedi gofyn, ‘Beth sydd o’i le ar Ben-y-bont ac Abertawe,” meddai. “Mae delwedd yn bwysig.”