Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghori ar ddau gynnig yn ymwneud â diddymu rhai o brifysgolion Cymru.

Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf yn dweud y gallai dyfodol tymor hir Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fod mewn perygl os nad yw’n uno gyda dwy brifysgol arall.

Bydd y cynnig cyntaf yn trafod diddymu Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd. Bydd yr ail yn ymwneud â diddymu Corfforaeth Prifysgol Casnewydd yn unig.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 16 wythnos, a bydd yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y mater, gan gynnwys y staff a’r myfyrwyr, gyflwyno sylwadau am y cynigion.

“Dw i wedi dweud o’r blaen fy mod am weld system Addysg Uwch yng Nghymru sy’n manteisio i’r eithaf ar gryfderau’r sefydliadau unigol, ac sy’n osgoi cystadleuaeth ddiangen rhyngddyn nhw,” meddai Leighton Andrews.

“Dw i o’r farn y gallai argymhellion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y De-ddwyrain fod yn ffordd briodol ymlaen, a dyna’r opsiwn dw i’n ei ffafrio ar hyn o bryd.

“O dan yr opsiwn hwnnw, byddai un sefydliad yn canolbwyntio ar wneud gwaith ymchwil a’r llall yn brifysgol fetropolitan gref,” ychwanegodd.

‘Bwlio’

Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb yn chwyrn i gyhoeddiadau blaenorol y Gweinidog Addysg ar y mater, ac eisoes wedi ei gyhuddo o ‘fwlio’.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg yn y Cynulliad, Angela Burns, fis diwethaf, “Dyma’r ymosodiad ola’ ar Brifysgol Fetropolitan Caerdydd wrth i’r gweinidog geisio cael enw amheus fel un o’r ychydig weinidogion yn hanes y DU i orfodi diddymiad prifysgol.

“Mae ei fwlio’n achosi tipyn o ansicrwydd i’r staff a’r darpar fyfyrwyr.”

Datgelodd Simon Thomas AC, fis diwethaf, fod Plaid Cymru yn gefnogol i’r egwyddor o “uno gwirfoddol” rhwng tair o brifysgolion y de-ddwyrain, ond bod penderfyniad Leighton Andrews i orfodi uno yn anghywir.

“Rydym ni’n hollol wrthwynebus i fwriad y Gweinidog Addysg i orfodi prifysgolion i uno pan maen nhw wedi penderfynu nad yw hynny o fudd iddyn nhw,” meddai Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru.

Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo fe all prifysgolion Morgannwg, Casnewydd a Metropolitan Caerdydd uno mor fuan â 2015.