Ryan Giggs
Mae’r pum chwaraewr o Gymru yn nhîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig wedi gwrthod canu ‘God Save the Queen’ am yr ail waith.

Roedd cegau Neil Taylor, Joe Allen, Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Aaron Ramsey ar gau yn ystod yr anthem sydd hefyd yn cael ei ganu gan dîm pêl-droed Lloegr.

Mae ‘tîm GB’ yn chwarae yn erbyn Yr Emiradau Arabaidd Unedig yn eu hail gêm yn y grŵp heno ma.

Fe aeth y Prydeinwyr ar y blaen o fewn ugain munud â pheniad gan y capten Ryan Giggs, a darodd bêl gan Gymro arall, Craig Bellamy, i mewn i’r gôl.

Daw’r penderfyniad i beidio canu’r anthem am yr ail waith wedi i’r chwaraewyr gael eu beirniadu am beidio â chanu ‘God Save the Queen’ cyn y gêm yn erbyn Senegal ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gymdeithas Olympaidd Prydain bryd hynny mai penderfyniad y chwaraewyr ydi hi i ganu’r anthem ai peidio, ond y dylai bob athletwr Prydeinig “ddangos parch.”

Yn y cyfamser, mae’r Aelod Seneddol Llafur, Paul Flynn, wedi galw am chwarae Hen Wlad fy Nhadau pan mae tîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig yn chwarae yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

“Hyd yn hyn, mae’r Cymry wedi sgorio dwy gôl, a’r Saeson heb sgorio un,” meddai. “Mae hynny’n cyfiawnhau canu Hen Wlad fy Nhadau yng Nghaerdydd.”