Nicole Cooke
Methodd cyn-enillydd Medal Aur ras ffordd y menywod, Nicole Cooke, ag ail-greu’r gamp yn Llundain heddiw.

Enillodd Nicole Cooke, 29,  y cyntaf o fedalau aur y Deyrnas Unedig yn Beijing bedair mlynedd yn ôl.

Er na lwyddodd hi i wneud hynny eto eleni fe chwaraeodd hi ran ganolog wrth sicrhau bod ei chyd-seiclwr o Brydain, Lizzie Armitstea, yn cipio’r fedal arian.

Dyma fedal cyntaf y Deyrnas Unedig yn ystod y Gemau Olympaidd eleni.

Roedd pentrefwyr y Wig ym Mro Morgannwg, lle y cafodd Nicole Cooke ei magu, wedi dod at ei gilydd er mwyn ei gwylio yn cymryd rhan yn y ras.

Fe orffennodd Nicole Cooke yn y 31ain safle, ar ôl aros yn ôl er mwyn llesteirio ymdrechion y prif grŵp i ddal i fyny â’r tair oedd ar y blaen.

Marianne Vos o’r Iseldiroedd ddaeth yn gyntaf, ac Olga Zabelinskaya o Rwsia yn drydydd.

Roedd Nicole Cooke wedi syrthio ymhell y tu ôl i’r prif grŵp am gyfnod, ond wedi llwyddo i ddal i fyny erbyn diwedd y ras.