Cael hwyl yn y Tegeingl
Mae bragdy o Sir y Fflint wedi creu cwrw arbennig ar gyfer Gŵyl Werin Tegeingl fydd yn cael ei chynnal yn yr Wyddgrug ym mis Awst.

Mae cwmni Facer’s wedi penderfynu cynhyrchu’r cwrw arbennig unwaith eto eleni gan ei fod wedi ei gynhyrchu ar gyfer yr ŵyl ddwy flynedd yn ôl, ac roedd wedi ei werthu i gyd mewn dim.

Meddai Dave Facer o’r cwmni, “Mae gŵyl wych yn gyfuniad o gyfadrannau gwych sydd wedi cael eu mwydo â’i gilydd i greu rhywbeth i blesio ac adlonni pobl am benwythnos – yn union fel cwrw go iawn! Dwi’n falch iawn o gael cynhyrchu cwrw arbennig ar gyfer gŵyl arbennig.”

Ac meddai Bryn Davies, cadeirydd Gŵyl Tegeingl, “Rydym wedi gwirioni bod Clwb Rygbi’r Wyddgrug a Bragdy Facer’s yn cofleidio ysbryd yr ŵyl. Fel yr adloniant sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr ŵyl, fe ddylai’r brag ddod â gwên i’r wyneb, a chael y traed yn curo i’r rhythmau Cymreig, Gwyddelig, Albanaidd, Seisnig ac Americanaidd!

“Mae’n wych gallu cydweithio â chwmnïau lleol fel hyn.”

Ymysg yr artistiaid fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni bydd Vin Garbutt, Kristina Olsen, Siân James a’r Glerorfa. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug dros benwythnos 17, 18 ac 19 Awst.