Mae cyn-blismon cudd a fu’n gweithio ar achos Meibion Glyndŵr wedi dweud ei fod yn sicr nad yw’r llosgwyr go iawn wedi cael eu dal.

Mae Elfyn Williams wedi cyhoeddi hunangofiant sy’n sôn am ei gyfnod yn adran y Special Branch yn ystod cyfnod boddi Tryweryn, yr Arwisgiad ac ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr.

Er bod un person, Siôn Aubrey Roberts, wedi cael ei garcharu fel rhan o’r ymgyrch losgi, dywedodd Elfyn Williams wrth gylchgrawn Golwg nad yw’n credu fod y llosgwyr go iawn wedi cael eu dal.

“Deng mlynedd a dros gant o dai – dwi ddim yn meddwl bod neb sy’n gyfrifol wedi cael ei ddal fy hun,” meddai.

Dywedodd mai camgymeriad oedd cyrchoedd yr heddlu ar dŷ Bryn Fôn ac Operation Tân ar Sul y Blodau pan gafodd 30 o Gymry amlwg eu harestio ben bore – “ar sail gwybodaeth gan gachgi o Gymro,” meddai Elfyn Williams.

Yn ei hunangofiant dywed Elfyn Williams ei fod ef ei hun yn cael ei amau o gydymdeimlo gyda’r llosgwyr, a’i fod yn credu bod rhywrai wedi bod yn clustfeinio ar alwadau ffôn ei dŷ.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma.