Joe Allen
Mae’r peldroediwr Joe Allen yn siarad Cymraeg, yn chwarae ar hyn o bryd i Abertawe ac yn dod o Sir Benfro.

Mae’n un o bum Cymro sy’n aelodau o dîm pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.

Ond er bod y lleill i gyd – Ryan Giggs, Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Neil Taylor – wedi cael eu disgrifio’n gywir fel Cymry yn rhaglen eu gêm gyntaf, mae Joe Allen wedi cael ei alw’n Sais.

Mae’r tîm yn chwarae Senegal heddiw ym maes Old Trafford ym Manceinion.

Mae dipyn o sôn wedi bod yn y wasg yn ddiweddar fod Joe Allen ar ei ffordd i Lerpwl i ymuno â’i hen reolwr, Brendan Rogers. Ond dyw hynny ddim wedi ei gadarnhau eto.