Stadiwm y Mileniwm - lleoliad y gemau
Mae Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Heather Joyce, wedi diolch i bawb wnaeth gyfrannu at “lwyddiant gwych” diwrnod agoriadol y Gemau Olympaidd yng Nghaerdydd.

“Mae cynnal digwyddiad cyntaf Gemau 2012 wedi bod yn anrhydedd enfawr i’r ddinas ac unwaith eto, rydym wedi dal ar y cyfle,” meddai.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae Caerdydd yn haeddiannol wedi sefydlu ei hun fel dinas sy’n arwain yn y byd chwaraeon, gan gynnal digwyddiadau fel rownd derfynol Cwpan yr FA, gêm brawf y Llwch ac yn awr y Gemau Olympaidd.”

Roedd y Cynghorydd Huw Thomas, sy’n gyfrifol am Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant yn y Cyngor, yn cytuno.

Gallai’r ffaith fod Caerdydd yn cynnal gemau pêl-droed yn ystod y Gemau Olympaidd “greu cyfleoedd economaidd a diwylliannol gwych ar gyfer Caerdydd, gan adlewyrchu ei statws fel prifddinas chwaraeon o safon ryngwladol,” meddai.