Charlotte Church
Mae’r gantores Charlotte Church wedi derbyn iawndal sylweddol gan bapur newydd The People.

Roedd y papur wedi honni bod Charlotte Church, 25, wedi cynnig priodi ei chariad Jonathan Powell yn ystod noson feddw o ganu karaoke mewn tafarn Robin Hood yng Nghaerdydd.

Mewn gwirionedd roedd Charlotte Church a Jonathan Powell yn cynnal cyngerdd byw yn Stiwdio Acapella, Pentyrch, ar y pryd.

Dywedodd Charlotte Church ar y pryd fod y stori yn “anwiredd llwyr”.

“Dydw i erioed wedi cynnig priodi fy nghariad, yn feddw ai peidio,” meddai ar ôl cyhoeddi’r stori. Roedd wedi achosi “cywilydd” iddi hi a’i theulu, meddai.

“Mae’n syndod i mi fod modd argraffu’r fath anwireddau. Nid newyddiaduraeth yw hyn.”