Mae ymwelwyr y Sioe Frenhinol wedi cael cipolwg ar ap newydd fydd yn hyrwyddo llwybrau cerdded yng Nghanolbarth Cymru.
Mae adran Dwristiaeth Cyngor Sir Powys wrthi’n datblygu’r ap ar gyfer ffônau clyfar a fydd yn tywys ymwelwyr ar hyd llwybrau Canolbarth Cymru.
Dywedodd y Cyngh Graham Brown, Aelod Portffolio Cyngor Sir Powys ar gyfer Twristiaeth bod teithiwyr yn dibynnu fwyfwy ar dechnoleg i’w tywys wrth ymweld â chefn gwlad.
“Mae’n nhw’n cael eu defnyddio yn gyson yn ystod yr ymweliad, boed hynny’n gwirio rhagolygon y tywydd, yn darganfod ty bwyta, neu’n defnyddio mapiau,” meddai.
“Mae dros 33 miliwn o ffônau clyfar yn cael eu defnyddio yn y DU yn unig. Mae’n bwysig ein bod yn darparu gwybodaeth angenrheidiol i ymwelwyr trwy ddefnyddio technoleg smartphones.
“Mae ffônau clyfar yn ffordd wych o ymgysylltu ag ymwelwyr â’r ardal, o hybu atyniadau a llwybrau lleol a chyfoethogi’r ymweliad.
“Mae apps yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio na chynnwys gwefan pan fyddwch ar daith, a gallant wneud y llwybrau yn fwy byw.”
Mae’r ap yn cael ei ddatblygu fel rhan o -SPEED , sef prosiect y mae ERDF INTERREG IVC yn ei ariannu, sy’n rhannu arfer gorau gyda phartneriaid Ewropeaidd.
Disgwylir iddo fod ar gael i’r cyhoedd o hydref 2012 ymlaen.