Mae chwe pherson arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar ôl i ddyn o Brestatyn farw dros y penwythnos.

Bu farw Jonathan Sillett, 43, yn dilyn ffrwgwd yn hwyr nos Sadwrn ar Ffordd y Traeth, ger safle ffair Prestatyn.

Mae’r heddlu ar hyn o bryd yn holi  pum dyn lleol rhwng 20 a 23 oed, a merch 19 oed.

Cafodd dau berson lleol, dyn 22 oed a merch 21, eu harestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddiaeth. Cafon nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth nos Lun tra bod yr heddlu’n cynnal rhagor o ymholiadau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i bobol a welodd y digwyddiad gysylltu â nhw.

“Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel dynladdiad a gall trigolion y gymuned leol fod yn dawel eu meddwl bod yr ymchwiliad yn parhau, ond rydym dal angen eu cymorth a’u cefnogaeth,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot.

Gall y cyhoedd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 neu’n ddienw drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.