Yr orsaf bresennol yn yr Wylfa
Mae cwmnïau niwclear o Tsieina yn ystyried buddsoddi biliynau mewn safleoedd niwclear ym Mhrydain, yn cynnwys safle’r Wylfa ar Ynys Môn.

Mae papur newydd y Guardian yn dweud fod swyddogion o Brydain wedi cyfarfod tîm o Sefydliad ymchwil Niwclear Shanghai yr wythnos diwethaf. Mae’r Sefydliad yn adain o Gorfforaeth Niwclear Genedlaethol Tsieina (CNNC).

Rhan gyntaf y cynllun fydda i CNNC a chwmni arall sydd piau llywodraeth Tsieina gystadlu am ran yn y prosiect Horizon, un o brosiectau niwclear mwyaf Prydain. Horizon sydd piau safle’r Wylfa ar Ynys Môn, a safle Oldbury ger Bryste.