ysbyty Blaenau Ffestiniog
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heddiw wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau dadleuol i ad-drefnu ysbytai yng ngogledd Cymru.

Yn ôl Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mary Burrows, “mae’n eglur na allwn ni aros yn ein hunfan.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau i droi ysbyty Blaenau Ffestiniog yn glinig a defnyddio Ysbyty Alltwen ger Porthmadog ar gyfer gofal a mân-anafiadau.

Mae bwriad i gau Ysbyty’r Fflint a throsglwyddo’r cyfrifoldebau gofal a mân-anafiadau i Dreffynnon.

Bydd unedau iechyd meddwl i hen bobol yn Nolgellau a Bryn Beryl yn cau o dan y cynlluniau.

Bydd adran ddwys ar gyfer babanod gogledd Cymru yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Arrowe Park yn y Wirral yn Lloegr. Bydd yr adran ar gyfer y gofal mwyaf dwys, sef tua 36 o fabanod yn flynyddol.

Dywed y Bwrdd Iechyd y bydd rôl yr ysbytai cymunedol yn newid ac y bydd angen canoli rhai gwasanaethau megis pelydr-x a gofal ar gyfer mân-anafiadau.

Cyn y cyfarfod heddiw roedd pryder y byddai llawdriniaethau brys yn cael eu symud o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan a’u canoli yn ysbytai Gwynedd a Maelor, ond mae’r bwrdd wedi penderfynu peidio argymell hynny heddiw.

Fe fyddan nhw’n “monitro’r sefyllfa’ agos” ac maen nhw’n cydnabod fod “risg” i adnoddau dynol ac ariannol wrth gynnal llawdriniaethau brys ar dri safle.

Bydd y broses ymgynghori yn dechrau ar 20 Awst ac yn para am gyfnod o 10 wythnos.