Cafwyd wyth dyn yn ddieuog heddiw o lofruddio tri ffrind gafodd eu taro gan gar yn ystod y terfysgoedd yn ystod yr haf y llynedd.
Honnodd yr erlyniad bod Haroon Jahan, Shazad Ali ac Abdul Musavir wedi bod yn ceisio amddiffyn busnesau lleol pan gawson nhw eu lladd ar ôl i dri char daro yn eu herbyn yn Winson Green, Birmingham.
Ond cafwyd Ryan Goodwin, Shaun Flynn, Juan Ruiz-Gaviria, Joshua Donald, Everton Graham, Adam King, Ian Beckford a Aaron Parkins yn ddieuog o dri achos o lofruddiaeth yr un gan reithgor yn Llys y Goron Birmingham ar ôl treulio pedair awr yn ystyried eu dyfarniad.
Ar ôl y dyfarniad, roedd y barnwr Mr Ustus Flaux wedi apelio am dawelwch ar strydoedd Birmingham gan annog pobl i barchu dyfarniad y rheithgor.
Dywedodd bod hyn wedi bod “yn achos ofnadwy – colled drist a dibwrpas o fywyd tri pherson ifanc.
‘‘Fodd bynnag, mae’r rheithgor wedi penderfynu nad oedden nhw wedi eu lladd yn fwriadol, nad oedd cynllun i ladd y tri dyn ifanc. Mae’r rheithgor wedi penderfynu bod hyn yn ddamwain ofnadwy.
“Beth bynnag yw’r teimladau o fewn y gymuned yn Winson Green tuag at y dyfarniad, mae’n bwysig i beidio â chynhyrfu ynglŷn â’r dyfarniad ac i barchu’r rheithfarnau,’’ ychwanegodd y barnwr.