Stadiwm Olympaidd Llundain
Mae un o enwadau mwyaf Cymru wedi cyhuddo’r Pwyllgor Olympaidd o drin Cymru mewn modd “gwarthus”.
Er eu bod nhw’n barod i gymryd arian o Gymru oedd yn cael ei wario ar helpu pobol anghenus, maen nhw amharod i adnabod fod y wlad yn bodoli, meddai llefarydd.
Dywedodd Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, ei fod wedi deisebu Cynulliad Cenedlaethol gan alw am gynnwys tîm o Gymru yn y Gemau Olympaidd.
Doedd y Pwyllgor Olympaidd heb ymateb er gwaethaf sawl neges gan gadeirydd un o bwyllgorau’r Cynulliad, meddai.
Mae degau o filiynau o bunnoedd mewn grantiau loteri wedi mynd o Gymru i dalu am y Gemau yn Llundain, meddai.
“Mae ysbeilio elusennau Cymru er mwyn talu am ddigwyddiad na fydd o unrhyw fudd i’n gwlad ni yn anghyfiawnder mawr,” meddai Geraint Tudur.
“Ystyriwn fod dyletswydd arnom ni Gristnogion i wrthwynebu unrhyw fygythiad i elusennau sy’n helpu pobl anghenus.
“Mae Cymru yn genedl anweledig. Ym marn yr IOC, nid ydym yn bodoli. Byddwn yn tybio bod yr un peth yn wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n frawychus ac yn gywilyddus.”
Taith Fawr y Cyfundebau
Rhybuddiodd Dr Geraint Tudur y bydd eu heglwysi yn diflannu os nad ydyn nhw’n dysgu i addasu.
Maen nhw wedi trefnu ‘Taith fawr y Cyfundebau’ fydd yn dechrau heno yng Ngorllewin Caerfyrddin.
Bwriad y daith fydd cyflwyno ac esbonio gweithgarwch yr Undeb, yn ogystal ag y Rhaglen Datblygu y maent yn awyddus i bob eglwys ei mabwysiadu a’i gweithredu, meddai. Mae rhagor o wybodaeth fan hyn.
“Mae hon yn daith bwysig ar adeg bwysig yn ein hanes,” meddai’r Geraint Tudur.
“Y nod yw cynnig gobaith i’r sawl sy’n dymuno gweld y traddodiad Cristnogol Annibynnol yn parhau yn ystod y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wrth Golwg360 ei fod yn “disgwyl cynulliad mawr yno heno” a bod S4C yn mynd i “ffilmio rhaglen gyfan am y daith”.
Fe fydd y daith yn dod i ben fis Tachwedd 16 – 17 yng Ngorllewin Morgannwg.