Andrew RT Davies
Does dim gronyn o sail i’r sibrydion am wamalrwydd arweinyddiaeth Andrew RT Davies o’r Blaid Geidwadol yn y Cynulliad, yn ôl un Tori amlwg.
Yr wythnos ddiwetha’ roedd Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Vaughan Roderick yn adrodd ar ei flog bod anniddigrwydd ynghylch dull Andrew RT Davies o arwain yr wrthblaid yn y Cynulliad:
‘Ydy’r grŵp Ceidwadol yn y Cynlluniad hwn yn llai effeithiol nac oedden nhw yn y Cynulliad diwethaf? Mae ’na rai, gan gynnwys rhai o fewn y blaid a’r grŵp, yn argyhoeddedig eu bod nhw.’
Ond mae Felix Aubel, sy’n gyfaill agos i Paul Davies y Dirprwy Arweinydd Torïaidd yn y Cynulliad, yn dweud nad yw’n ymwybodol bod ei gyd-Aelodau Cynulliad yn cwyno am Andrew RT Davies.
“Dw i ddim yn gwybod am unrhyw Aelod Cynulliad sy’n briffio yn ei erbyn,” meddai Felix Aubel, y cyn-ymgeisydd Ceidwadol sy’n Weinidog gyda’r Annibynwyr yn Nhrelech yn Sir Gaerfyrddin ac yn arbenigwr hen greiriau i sioe deledu Prynhawn Da ar S4C.
“Rydw i wedi darllen am anniddigrwydd honedig yn y Western Mail, ond heb weld unrhyw dystiolaeth.”
Union flwyddyn yn ôl etholwyd Andrew RT Davies i olynu Nick Bourne yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad. Nick Ramsay ddaeth yn ail.
“Gyda chanlyniad mor glos – dim ond 150 o bleidleisiau oedd rhwng Andrew RT a Ramsay – roedd wastad rhai yn mynd i’w chael hi’n anodd derbyn y canlyniad,” meddai Felix Aubel, sy’n credu fod arddull ymosodol Andrew RT Davies ar lawr y Senedd yn boblogaidd ymysg aelodau cyffredin ar lawr gwlad.
“Roedd rhai yn dweud bod [Nick] Bourne braidd yn hamddenol yn nadleuon y Cynulliad.
“Mae Andrew RT dipyn myw ymosodol ac yn dodi Carwyn Jones i gyfrif.”
Mae Felix Aubel yn bendant bod holl Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr y tu cefn i Andrew RT Davies.
“Does dim hollt yn y garfan,” meddai.