Y Gymdeithas wrth ei gwaith
Bydd S4C yn talu £150 i bob cerddor sy’n chwarae yn gig Hanner Cant Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos.

Bydd y Sianel yn dangos talpiau helaeth o gig heno a nos yfory.

Dywedodd un o drefnwyr y gig, Iwan Standley, fod y bandiau “jest yn falch o gefnogi’r Gymdeithas”.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio am dorf dda ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, wedi i’r Gymdeithas werthu fwy o docynnau na’r disgwyl ar-lein.

“Ryda ni’n gobeithio y bydd y lle yn llawn,” ychwanegodd Iwan Standley. “Mae llawer wedi son ar twitter eu bod am droi i fyny a thalu ar y giatiau.”

Bydd arddangosfa o hen grysau-t, posteri hanesyddol o gigs Cymdeithas a dilladau “eiconig” dros y penwythnos hefyd..

Y Saethau yn tynnu allan

Gan fod aelod o fand Y Saethau wedi’i daro’n wael, ni fydd yr hogiau o’r Felinheli yn chwarae’r gig.

Bydd Y Mellt – a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth am fand newydd i chwarae’r gig fawr arobryn – fydd yn cymryd eu lle.