Alan Llwyd
Mae Alan Llwyd wedi beirniadu beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Y Storïwr gan Jon Gower oedd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn y seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd neithiwr.

Ond roedd Alan Llwyd wedi’i “syfrdanu” nad oedd ei gofiant am yr awdures Kate Roberts wedi hawlio’r brif wobr o £8,000.

Bu trafod brwd ar Kate: Cofiant Kate Roberts pan ddaeth o’r wasg, a bu rhaglen deledu am ei gynnwys ar S4C.

Roedd honiad Alan Llwyd fod Kate Roberts yn ddeurywiol wedi ysgogi trafodaeth faith ar wefan golwg360 hefyd.

“Roedd pawb yn dweud mai hwn oedd y gorau o bell ffordd. Fedra i ddim credu’r peth,” meddai Alan Llwyd wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i Lenyddiaeth Cymru fod yn ofalus, maen nhw wedi cael enw drwg ers blynyddoedd.”

Ni chafodd Alan Llwyd mo’r wobr lai o £2,000 yn y categori Ffeithiol-Greadigol ychwaith.

Cofiant i John Morris-Jones gan Allan James aeth â hi.

“Mae rhywbeth yn bod ar y broses – mae angen beirniaid mwy dibynadwy,” meddai Alan Llwyd.

“Yn naturiol, dw i’n hynod siomedig. Efallai fod hynny am fod pawb wedi adeiladu fy ngobeithion i i fyny,” ychwanegodd Alan Llwyd. “Ydyn nhw wedi mynd yn groes i’r canlyniad disgwyliedig? Dw i ddim yn gwybod.”

Beirniaid Llyfr Cymraeg y flwyddyn eleni oedd Jason Walford Davies, Bethan Mair a Kate Woodward.

Categorïau

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r llyfrau gael eu barnu mewn categorïau.

Karen Owen oedd enillydd y wobr farddoniaeth a Gwobr Barn y Bobl – trwy bleidlais darllenwyr golwg360 – gyda’i chyfrol farddoniaeth a lluniau, Siarad Trwy’i Het yn cipio £2,000 iddi.

Ar ôl bod ar restr fer gwobr y Booker, roedd yna fuddugoliaeth yn y categori Saesneg i’r nofelydd Patrick McGuinness o Gaernarfon gyda’i nofel am ddyddiau ola’r Comiwnyddion yn Romania, The Last Hundred Days.

Fe aeth y wobr ffeithiol Saesneg i Richard Gwyn a gwobr farddoniaeth Roland Mathias i Gwyneth Lewis am ei chyfrol The Sparrow Tree.

Mae golwg360 yn disgwyl am ymateb gan Lenyddiaeth Cymru i sylwadau Alan Llwyd.