Lesley Griffiths
Mae’r dadlau’n parhau tros ‘annibyniaeth’ adroddiad am ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Ddoe, fe wrthododd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, alwadau ar iddi ymddiswyddo ar ôl iddi ddod yn amlwg fod awdur yr adroddiad ac un o benaethiaid y Gwasanaeth wedi bod yn ymgynghori â’i gilydd yn ystod cyfnod creu’r adroddiad.

Yn awr, mae’r Gymdeithas Feddygol – y BMA – wedi beirniadu’r adroddiad gan honni ei fod wedi ei greu er mwyn cyfiawnhau argymhellion dadleuol a’i fod wedi ei danseilio.

Maen nhw’n dweud ei fod yn “ymgais sinigaidd” i geisio dylanwadu ar weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r tair gwrthblaid yn y Cynulliad hefyd yn parhau i drafod eu camau nesa’ – fe allai hynny gynnwys cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog ac ymchwiliad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Ond mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi cefnogi’r academydd, Marcus Longley, a’i swyddogion gan ddweud ei bod yn naturiol iddyn nhw drafod ystadegau. Roedd ganddo bob ffydd, meddai, yn ei ddirprwy, sydd wedi ei enwi ynglŷn â’r achos.

Y cefndir

Neithiwr, fe ddywedodd Lesley Griffiths ei hun wrth un o raglenni’r BBC ei bod yn gwybod bod trafodaeth rhwng yr Athro Longley a swyddogion ond nad oedd hi’n gwybod am y manylion.

Fe gododd yr helynt ar ôl i’r BBC gael gafael ar e-byst rhwng yr Athro Longley, o Brifysgol Morgannwg, a rhai o uchel swyddogion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru – roedden nhw’n dangos fod y ddwy ochr yn chwilio am ystadegau i gefnogi’r newid.

Enw’r adroddiad oedd ‘The Case for Change’ ond roedd Lesley Griffiths wedi honni yn y Cynulliad ei fod yn waith cwbl annibynnol. Fe allai arwain at aildrefnu gwasanaethau a hyd yn oed gau rhai.

Mae Llafur wedi cyhuddo’r pleidiau eraill o ddefnyddio’r achos i chwarae gemau gwleidyddol.