Mae’r rhan fwyaf o oedolion yn cyfaddef eu bod yn defnyddio alcohol i ymlacio ar ôl diwrnod dan bwysau yn y gweithle, yn ôl ymchwil newydd.
Roedd atebion i arolwg gan yr elusen Drinkaware yn dangos bod bron i ddau o bob tri oedolyn 30-45 oed yn yfed er mwyn ymlacio.
Yn ôl yr ymchwil roedd un o bob pump dyn, ac un o bob chwech o ferched, yn dweud eu bod yn yfed bob dydd neu’r rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos.