Mae gweithwyr anabl Remploy yn bwriadu mynd ar streic y mis hwn mewn protest yn erbyn cau eu ffatrïoedd, meddai’r undebau heddiw.
Fe fydd y streiciau’n cael eu cynnal ar 19 a 26 Gorffennaf.
Fe allai hyd at 1,700 o bobol golli eu swyddi ledled y Deyrnas Unedig pan fydd 36 o’r 54 o ffatrïoedd Remploy yn cau.
Yng Nghymru fe fydd saith o’r naw ffatri Remploy yn cau, gan beryglu 281 o swyddi.
Mae’r ffatrïoedd yn Abertawe, Wrecsam, Aberdâr, Merthyr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, a Chroespenmaen.
Mae undeb Unite yn credu bod nifer anghymesur o’r ffatrïoedd yn cau yng Nghymru.