Mae ymchwiliad wedi cychwyn ar ôl i ddynes, a oedd yn ei saithdegau, farw’n sydyn yn Sir Benfro.

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth sydyn mewn tŷ yn ardal Cas-lai, Sir Benfro,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu.

“Derbyniodd yr Heddlu adroddiad o’r digwyddiad am tua 10yb ar ddydd Mercher, 4 Gorffennaf.

“Mae ymholiadau’n parhau er mwyn cysylltu â’r teulu.”