Traffordd yr M25
Mae dyn 26 oed o’r Rhyl wedi cael ei garcharu heddiw am yrru ar hyd ochor anghywir traffordd yr M25 yn Lloegr.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Christopher Jones wedi gyrru ar hyd llain galed orllewinol yr M25, ond i gyfeiriad y dwyrain.
Fe blediodd yn euog i gyhuddiad o yrru’n beryglus ac o yrru pan oedd wedi ei wahardd. Plediodd yn euog, hefyd, i gyhuddiad o gynhyrchu canabis a bod â’r cyffur yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i werthu.
Cafodd ei garcharu am 25 mis, a’i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, ynghyd â gorchymyn i sefyll prawf gyrru estynedig ar ddiwedd y cyfnod yna.
Dywedodd y barnwr Niclas Parry wrth ei ddedfrydu ei fod yn anhygoel nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu yn y digwyddiad.
Cafodd George Mellor, 20 oed, hefyd o’r Rhyl, oedd yn teithio yn y car efo Christopher Jones, ddedfryd o garchar am 16 wythnos wedi ei ohirio, a 100 o waith di-dâl yn y gymuned.
Tri diwrnod cyn y digwyddiad yma roedd Jones wedi methu ymddangos mewn llys yng ngogledd Cymru i wyneb cyhuddiadau gyrru eraill ar ôl i’r heddlu ei ddilyn ar ras ar hyd strydoedd canol tref y Rhyl.