Afon Teifi
Mae ci wedi achub bywyd ei berchennog ar ôl iddi syrthio i Afon Teifi.

Mae’n debyg mai cyfarth y ci a dynnodd sylw pobol i alw’r gwasanaethau brys i’r digwyddiad ger gwesty Hammet House yn Llechryd yng Ngheredigion.

Cafodd Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r digwyddiad am 7.49 bore yma – roedd y wraig wedi syrthio i’r afon wrth fynd â’i chi am dro.

Roedd aelodau o Dimoedd Achub Dŵr Swift Aberystwyth a Chaerfyrddin yno ynghyd â Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty ond dyw hi ddim mewn cyflwr difrifol.