Ysbyty Bronglais
Mi fydd cleifion un ward yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn cael eu symud i ward iechyd meddwl yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, yr wythnos hon.

Mae hyn yn digwydd, meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda, o ganlyniad i broblemau parhaus o safbwynt recriwtio meddygol a phroblemau staffio. Nid oes digon o staff cymwys i ddarparu “gofal priodol a diogel” ar y ward, meddai. Dywedodd na fyddai neb yn colli eu swydd oherwydd y newidiadau.

Bydd cleifion Ward Afallon, Ysbyty Bronglais, yn cael eu symud i wasanaethau gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol ac yn y gymuned ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff.

Meddai datganiad ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda, “O ganlyniad i waethygu pellach o ran problemau staffio,  meddygol a nyrsio hirdymor ar Ward Afallon, ac yn ôl cyngor staff ac ymgynghorwyr sy’n darparu’r gwasanaeth, penderfynwyd nad oes digon o staff gofal iechyd cymwys i ddarparu gofal priodol a diogel ar y ward honno.”

‘Blaenoriaethu gofal’

Ac meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl, Karen Howell, “Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gwneud pob ymdrech i gynnal y gwasanaeth, gan gynnwys mynd ati i geisio recriwtio staff a gwella amgylchedd y ward, ond nawr rhaid gweithredu mewn modd arall yn syth.

“Rhaid blaenoriaethu’r gallu i roi gofal a thriniaeth ddiogel i’n cleifion, ac amgylchedd gwaith diogel i’n gweithlu. Felly, mae ymgynghorwyr wedi adolygu’r cleifion ar y ward a byddant yn sefydlu pecynnau gofal ar gyfer y rhai hynny a all gael gofal yn y gymuned, ac yn trosglwyddo’r rhai y mae angen gofal arnynt yn yr ysbyty i’r gwasanaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol a all roi’r gofal sydd ei angen arnynt ar Ward Morlais, Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

“Hoffwn ei gwneud hi’n gwbl glir nad yw’r symud hwn yn rhan o’r ymgynghoriad sydd ar y gorwel ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd. Mater o ddiogelwch gweithredol yw hyn.

“Rydym mewn cysylltiad â’r cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn ogystal ag â staff a’r Cyngor Iechyd Cymuned er mwyn sicrhau eu bod yn llawn deall yr angen am y symud hwn.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n ofalus a pharhau i adolygu’r mater ond, oni bai ein bod yn gallu recriwtio staff meddygol a nyrsio â’r cymwysterau priodol i mewn i swyddi parhaol, byddwn yn ei chael yn anodd darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar Ward Afallon.”

‘Adborth cadarnhaol’

Dywed y datganiad fod clinigwyr a rheolwyr y gwasanaeth wedi chwarae rhan ragweithiol a’u bod o blaid y penderfyniad i symud y gwasanaeth ar hyn o bryd.

“Cafwyd profiad llwyddiannus yn ddiweddar wrth drosglwyddo cleifion o Ward Afallon i Ward Morlais er mwyn cynnal gwaith ailwampio, a chafwyd adborth cadarnhaol gan staff a chleifion fel ei gilydd.

“Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i gynllunio, ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr, fodel gwasanaethau’r dyfodol ar gyfer Ceredigion. Mae gwaith ymgysylltu eisoes wedi dangos bod pobl yn cefnogi rhoi gofal yn agosach i’r cartref ac mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau cymunedol a lleihau dibyniaeth ar welyau ysbyty, lle y bo’n briodol.”