Mae pennaeth cartref preswyl oedd wedi defnyddio triniaethau amgen ar breswylwyr heb ganiatâd swyddogol wedi osgoi cael ei diarddel o’r gofrestr feddygol – ond mae hi’n wynebu cyfres o amodau llym dros y 18 mis nesaf.

Roedd Marie Eva Lourdes Mascarenhas yn wynebu pum cyhuddiad yn dyddio nôl i 2006 pan oedd hi’n rhedeg cartref preswyl St Chamond’s ger Prestatyn gyda’i gŵr.

Fe ddefnyddiodd olew aromatherapi i drin briwiau gorwedd yn hytrach na thriniaeth feddygol ac roedd hefyd wedi caniatáu i ddynes oedrannus ddod i’r cartref heb gynllun gofal llawn.

Clywodd gwrandawiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bod  Marie Mascarenhas wedi cael “gyrfa ddi-fai” dros gyfnod o 30 mlynedd ond bod “natur ddifrifol” ei chamymddygiad yn “tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.”

Dywedodd Marie Mascarenhas, sydd wedi bod yn nyrs ers 1973, nad oedd y triniaethau wedi achosi niwed i’r cleifion a’u bod wedi gwella’r briwiau gorwedd.

Fe benderfynodd y panel yng Nghaerdydd bod camymddygiad wedi ei brofi gan nad oedd Marie Mascarenhas wedi cael caniatâd tîm arbenigol – sy’n cynnwys meddygon a nyrsys arbenigol – i ddefnyddio’r triniaethau amgen.

Ond mae’r panel, oedd yn cwrdd yng Nghaerdydd ddoe, wedi penderfynu peidio diarddel Marie Mascarenhas o’r gofrestr nyrsio ond wedi cyflwyno cyfres o amodau llym dros gyfnod o 18 mis. Mae’n cynnwys cael caniatâd y tîm arbenigol cyn defnyddio triniaethau amgen a chyflwyno cynlluniau gofal.