Yr Wyddfa
Mae tîm achub mynydd wedi rhybuddio fod gormod o gerddwyr yn ceisio dringo mynyddoedd Eryri heb y dillad na’r offer priodol.
Galwyd am gymorth Tîm Achub Mynydd Llaneris dair gwaith ddoe ar ôl i grwpiau gwahanol fynd i drafferthion.
Yn eu mysg roedd criw o 11 o gerddwyr aeth ar goll mewn niwl trwchus nid nepell o gopa’r Wyddfa min nos ddydd Sadwrn.
Achubwyd dyn a llanc arall mewn digwyddiadau ar wahân. Roedd y dyn yn ei 30au wedi syrthio ym Mwlwch Llanberis toc wedi 1pm.
Yn fuan wedyn daeth i’r amlwg bod bachgen 15 oed wedi torri ei bigwrn ar Lwybr Pen y Gwryd.
Wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r ganolfan, galwyd yr achubwyr unwaith eto i helpu criw o 11 ar goll ar Grib Goch. Llwyddwyd i roi cyfarwyddiadau iddyn nhw dros y ffon.
Daeth i’r amlwg hefyd bod dyn arall wedi mynd ar goll ar y mynydd yn ystod oriau mân y bore heddiw ar ôl gwahanu oddi wrth weddill ei grŵp.
Llwyddodd y dyn i gyrraedd y gwaelod a rhoi gwybod i’r awdurdodau.
Dywedodd John Grisdale o’r Dîm Achub Mynydd Llaneris fod y mynydd yn brysur iawn ar hyn o bryd ac nad oedd nifer o’r cerddwyr yn gwybod sut i wisgo a pha offer i’w gario.
“Rydyn ni wedi dod ar draws grwpiau sy’n gwisgo crysau-t a jins yn hytrach na’r dillad cywir,” meddai wrth y BBC.
“Dydyn nhw ddim yn deall pa mor oer a gwlyb y mae hi’n gallu bod ar begwn mynydd yr adeg yma o’r flwyddyn.”