Er bod Santander UK wedi dweud bod yr hyn sydd yn eu banc yn ddiogel, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi tynnu arian allan.
Oherwydd y trafferthion bancio yn Sbaen, mae cynghorau Sir y Fflint a Sir Fynwy wedi cefnu ar Santander, yn ogystal â Phrifysgolion Abertawe, Aberystwth a Glyndŵr.
Daeth y stori i’r fei yn dilyn gwaith ymchwil gan raglen Dragon’s Eye BBC Cymru.
Yn 2008 fe gollodd cyrff cyhoeddus o Gymru £74 miliwn pan ddymchwelodd banciau Gwlad yr Iâ.