Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud ei bod yn gyfforddus gyda’r cysyniad o “Brydeindod”.

Mewn erthygl yn y Scotsman, dywedodd y sosialydd fod Yr Alban o flaen Cymru yn nhermau cyfansoddiadol, er ei bod yn disgwyl i Gymru gael annibyniaeth “o fewn cenhedlaeth”.

Hefyd mae Leanne Wood wedi dweud fod Lloegr yn fwy na “chymydog”, ond hefyd yn “chwaer wlad” i Gymru.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi galw ar genedlaetholwyr i fod yn fwy aeddfed wrth ymdrin â ’r Teulu Brenhinol.

Yn yr erthygl bapur newydd, mae Leanne Wood yn dweud na ddylai syniad newydd o Brydeindod ar sail cydraddoldeb fod yn gysylltiedig â safle cyfansoddiadol y gwledydd.

“Mae’r cysyniad o Brydeindod wedi profi ei hun mor hyblyg yn y gorffennol ag y dylai yn y dyfodol,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

“Mae’r rheiny ohonom sy’n credu mewn partneriaeth gyfartal â diddordeb yn yr hyn mae Prydain am olygu yfory, yn hytrach nag oedi ar Brydeindod heddiw, neu’n waeth eto, dyheu am Brydeindod chwedlonol y gorffennol.”

Math newydd o Brydain

Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i ffigwr blaenllaw o Blaid Cymru roi cefnogaeth i “Brydeindod”, ond fe ddaw fel rhan o ymdrech i ailddiffinio Prydain yng nghyd-destun datganoli.

“Os yw pobl yr Alban yn pleidleisio am wlad annibynnol yn 2014, gall math newydd o Brydain ddod i’r amlwg,” ychwanegodd Leanne Wood.

“Rwy’n benderfynol na fydd Cymru yn gwylio o’r cyrion ar yr adeg bwysig hon yn hanes y ddwy wlad.

“Mae un peth yn sicr: mae cyfeiriad fy ngwlad i yn y dyfodol yn cael ei gysylltu unwaith eto â datblygiadau’r Alban. Mae’r ddwy wlad ar drothwy rhywbeth hanesyddol.”