Mae’r dirwasgiad yn waeth nag y tybiwyd wrth i ffigurau newydd ddangos fod yr economi wedi crebachu yn ystod chwarter olaf 2011.

Roedd y GDP wedi crebachu 0.4% rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr, o’i gymharu gydag amcangyfrif gwreiddiol o 0.3%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Crebachodd yr economi  0.3% yn ystod chwarter cyntaf eleni sy’n golygu fod y dirwasgiad – sy’n cael ei ddiffinio gan ddau chwarter o grebachu yn olynol – yn fwy difrifol nag y tybiwyd.

Mae’r economi gwan yn cael effaith ar gartrefi wrth i wariant cartrefi ostwng 0.1% o’i gymharu gydag amcangyfrif o gynnydd o 0.1%.

Sectorau’r economi

Mae’r sector adeiladu wedi crebachu 4.9%, ei berfformiad gwaethaf ers 2009.

Mae’r sector diwydiannol, sy’n cynnwys gweithgynhyrchu, wedi crebachu 0.5%, ond mae’r sector gwasanaethau, sy’n cynrychioli 75% o’r economi, wedi gwneud cynnydd bychan o 0.2% yn ystod charter cyntaf eleni.

Ymateb Carwyn Jones

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi rhybuddio fod toriadau Llywodraeth Prydain yn “rhy ddwfn a rhy sydyn” a bod y ffigurau heddiw’n profi ei fod yn iawn.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi gwneud tro pedol ar dreth tanwydd, ar dreth elusennau, ar y dreth garafán, ac ar dreth bastai.

“Nawr mae angen iddyn nhw wneud tro pedol ar eu polisi economaidd, cael gwared ar gynllun A a mabwysiadu cynllun B sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy, yn creu swyddi ac yn sicrhau fod gan bobol y sgiliau i wireddu eu potensial,” meddai Carwyn Jones.

Plaid Cymru: “Ble mae ffigurau GDP Cymru?

Beirniadodd Plaid Cymru ymateb llywodraethau Prydain a Chymru i’r dirwasgiad.

“Mae pob ffigwr allbwn economaidd yn waeth na’r un diwethaf – arwydd clir fod ‘Cynllun A’ y Ceidwadwyr yn fethiant llwyr” meddai Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys.

“Nid yw’r sefyllfa yng Nghymru lawer gwell diolch i syrthni Llafur a’r ffaith fod y Prif Weinidog mor gyndyn o daclo’r argyfwng ariannol gyda pholisiau realistig ac uchelgeisiol.

“Yn ddiweddar galwais ar y Prif Weinidog i ddarparu ffigyrau GDP ar wahan i Gymru fel y cawn ddarlun cyflawn o sut siap sydd ar ein heconomi.

“Yn anffodus, ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb mewn mabwysiadu’r syniad hwn a fyddai’n ein helpu i roi’r economi Gymreig ar y trywydd iawn.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers ddechrau’r argyfwng economaidd mai buddsoddi yn ein isadeiledd, rheilffyrdd, ysgolion ac ysbytai yw’r ffordd orau o gadw’r economi’n symud a chadw pobl mewn gwaith” ychwanegodd Jonathan Edwards AS.