Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru a llefarydd yr wrthblaid ar Gymru wedi bod yn ffraeo dros benderfyniad i ganslo pwyllgor ar newid etholiadol yng Nghymru.
Y bore ma mynegodd Cheryl Gillan ei “siom” am fod yr wrthblaid yn San Steffan wedi “rhwystro” cyfarfod o Uwch Bwyllgor Cymru ond dywedodd Owen Smith o’r Blaid Lafur fod Ysgrifennydd Cymru wedi gwneud “penderfyniad pigog”.
Roedd disgwyl i Uwch Bwyllgor Cymru drafod cynnig Cheryl Gillan i ddiwygio etholaethau Cymru a’r modd o ethol aelodau ar gyfer San Steffan a’r Cynulliad, ond dywedodd Cheryl Gillan nad oedd dewis ganddi ond canslo’r pwyllgor oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Llun nesaf.
“Roeddwn i’n edrych ymlaen at drafod materion y Papur Gwyrdd felly rwy’n siomedig tu hwnt fod yr wrthblaid swyddogol wedi dewis chwarae politics plaid. Dwi ddim yn credu byddai’r rhan fwyaf o bobol yn ei chael hi’n anodd i droi lan i’r gwaith am 11.30 ar fore Llun.”
“Dim hawl i ymhél gyda threfniadau etholiadol Cymru”
Mae Owen Smith, llefarydd y Blaid Lafur yn San Steffan ar Gymru ac Aelod Seneddol Pontypridd, wedi dweud mai anallu Cheryl Gillan i gynnal dadl ar lawr Tŷ’r Cyffredin oedd asgwrn y gynnen.
Mewn llythyr ati heddiw dywedodd Owen Smith,
“Mae’n adrodd cyfrolau am eich agwedd at y Cynulliad Cenedlaethol a’ch diffyg dylanwad gyda rheolwyr busnes eich plaid eich bod chi methu sicrhau dadl yn ystod amser y llywodraeth, ar lawr y Tŷ, ar eich Papur Gwyrdd chi eich hun.”
Ychwanegodd Owen Smith fod cynnal y Pwyllgor yn Llundain ar fore Llun yn “anghyfleus” ond bod diffyg ystyriaeth Cheryl Gillan o hynny yn ddealladwy o ystyried mai “taith fach 35 munud o Chesham ac Amersham” sydd ganddi.
Wythnos ddiwethaf dywedodd Owen Smith nad oedd mandad gan Cheryl Gillan i ymhél gyda threfniadau etholiadol Cynulliad Cymru.
Mae Papur Gwyrdd Cheryl Gillan yn cynnig newid yr etholaethau yng Nghymru gan ethol 30 aelod i’r Cynulliad trwy system gyntaf i’r felin, a 30 trwy system gynrychiolaeth gyfrannol.
Ym mis Mai rhybuddiodd Carwyn Jones fod “system etholiadol y Cynulliad yn fater i bobol Cymru ac i neb arall”, a dywedodd Plaid Cymru mai “Cynulliad Cymru nid Llywodraeth Prydain ddylai arwain y ddadl ar etholiadau i’r Cynulliad.”