Nikitta Grender
Mae dyn 26 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ferch feichiog o Gasnewydd, Nikitta Grender.

Bydd Carl Whant hefyd yn wynebu cyhuddiad o ddinistrio plentyn pan fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili ddydd Llun.

Roedd diffoddwyr tân wedi cael hyd i gorff Nikitta Grender, 19 oed, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, Casnewydd, am 7.50 fore Sadwrn 5 Chwefror.

Datgelodd yr heddlu nos Sul diwethaf ei bod hi wedi ei thrywanu ddwywaith a daeth i’r amlwg wedyn ei bod hi wedi marw cyn i’r tân gynnau.

Cafodd Carl Whant ei arestio ddydd Mercher. Mae’n gyfyrder i dad babi Nikitta Grender, Ryan Mayes, sy’n 18 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlid y Goron, Stacey Turner, eu bod nhw wedi “edrych yn ofalus ar y ffeil a ddarparwyd gan Heddlu Gwent ac wedi penderfynu fod digon o dystiolaeth i gyhuddo Carl Whant o lofruddio Nikitta Grender”.

“Mae’n amser anodd iawn i deulu Nikitta. Maen nhw wedi cael gwybod am ein penderfyniad a’r gobaith yw y byddwn ni’n cyfarfod gyda nhw’n fuan er mwyn esbonio proses yr achos llys ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.”