Hen lanfa pier Llandudno (Noel Walley)
Bydd glanfa newydd ar gyfer cychod a llongau yn cael ei gosod ar ddiwedd pier Llandudno ar ôl i fferm wynt oddi ar arfordir gogledd Cymru ariannu’r prosiect.

Mae Cyngor Conwy wedi mynegi ei obaith y bydd y lanfa newydd yn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal ac mae’r gwaith adnewyddu gwerth £331,000 wedi cael nawdd gan un o’r prosiectau ynni gwynt morol mwyaf yn y byd, sef Gwynt y Môr.

Mae RWE Innogy yn arwain prosiect Gwynt y Môr i godi 160 tyrbein a fydd yn mesur 150 medr o uchder allan yn y môr 10 milltir o Landudno. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd a bydd ceblau trydan yn rhedeg o’r fferm wynt i’r arfordir rhwng Abergele a’r Rhyl.

Glanfa’r Dolffin

Roedd hen lanfa’r pier wedi adfeilio ac mae Cyngor Conwy am weld mordeithiau yn dychwelyd yno er mwyn ymweld ag atyniadau megis Ynys Seiriol.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar Lanfa’r Dolffin yn ystod Gorffennaf, ac fe allai fod yn barod ym mis Hydref.

Dywedodd Jim Jones, pennaeth adran twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,  fod glanfa newydd yn “flaenoriaeth allweddol” er mwyn denu twristiaid i’r ardal.

“Rydym yn gwybod bod llawer o ddiddordeb gan fusnesau mordeithiau sydd eisiau dod i Landudno ac ymweld ag atyniadau eraill ledled Conwy. Wrth gwrs, nid yw hyn yn syndod i ni, yn enwedig yn sgil Llandudno yn cael ei bleidleisio yn un o’r deg cyrchfan gorau yn y Deyrnas Unedig yn 2012 gan Trip Advisor” meddai Jim Jones.

Cafodd y pier Fictoraidd ei adeiladu’n wreiddiol yn 1876 a chafodd y lanfa gyntaf ei hadeiladu ar ben y pier yn 1891.

Un sydd wedi croesawu’r newyddion am y lanfa newydd yw’r actores Alison Steadman a ymddangosodd yn y gyfres Gavin and Stacey. Roedd hi’n cofio’r pier yn atyniad i longau pleser pan oedd hi’n iau a dywedodd fod y buddsoddiad newydd yn “newyddion gwych” a fydd yn golygu fod “llawer mwy o ymwelwyr yn dod i’r lle gwych hwn sydd mor agos at fy nghalon.”