Theodore Huckle
Mae prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen i ddeddfwriaeth Cymru fod yn fwy eglur ac yn haws cael gafael arni.

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle, wedi mynegi ei bryder nad yw pobol yn deall y cyfreithiau sy’n bodoli yng Nghymru a ddim yn gwybod ble i gael gafael ar wybodaeth am gyfraith Cymru.

“Rhaid i ddeddfwriaeth fod yn effeithiol ac yn hygyrch er mwyn cynnal cyfraith a threfn” meddai Theodore Huckle.

“Rwy’n poeni nad yw deddfwriaeth Cymru yn ddigon clir a’i bod yn anodd cael gafael arni – nid yn unig am ei bod yn gymhleth a swmpus, ond hefyd am na chaiff ei chyhoeddi’n effeithiol.

“Clytwaith cydgysylltiedig o ddeddfwriaeth yw’r casgliad o gyfreithiau sydd gennym – ac mae peth ohono’n mynd yn ôl ddegawdau, os nad ganrifoedd. Mae datganoli wedi gwneud cyfraith statud yn fwy cymhleth fyth.”

Gwyddoniadur y gyfraith

Gwnaeth Theodore Huckle ei sylwadau ar achlysur cyhoeddi gwyddoniadur newydd ar gyfraith Cymru a fydd yn cael ei lansio ar y we yn ystod 2013.

Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Archifau Gwladol i wella’r ddarpariaeth Gymreig ar legislation.gov.uk.

“Rwy’n disgwyl y bydd llawer iawn o ddeddfwriaeth Cymru ar gael yno, wedi’u diweddaru, yn y dyfodol agos” meddai Theodore Huckle.

Llyfr statud i Gymru

Mae’r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ystyried datblygu ‘llyfr statud’ sy’n cynnwys deddfwriaeth sy’n effeithio ar Gymru’n unig.

“Byddai symud yn raddol tuag at ddeddfwriaeth sy’n sefyll ar ei thraed ei hun – neu lyfr statud i Gymru – yn gwella’r sefyllfa’n sylweddol. Byddai hyn yn golygu diwygio, codio a chyfuno’r gyfraith sy’n berthnasol i Gymru yn unig. .

“Bydd cynlluniau fel hyn yn cyflymu’r broses o ddatblygu casgliad sylweddol o gyfreithiau annibynnol ar gyfer Cymru. Bydd y gwaith yma’n hanfodol hefyd wrth inni ystyried a ddylem geisio datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.”

Awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad er mwyn trafod creu trefn gyfreithiol ar wahân yng Nghymru am y tro cyntaf ers bron 500 mlynedd.

Heddiw dywedodd Plaid Cymru y buasai creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn “sbardun economaidd” i Gymru.

“Mae gwir fanteision i ddatblygu system gyfreithiol Gymreig ein hunain” meddai Simon Thomas AC.

“Nid yn unig y ffaith y bydd y grym yn nes at bobl Cymru, ond fe allai cyflenwad y swyddi sy’n mynnu sgiliau ym mhroffesiwn y gyfraith hefyd gynyddu.

“Os edrychwn ar Ogledd Iwerddon lle mae awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn bodoli eisoes, mae’r system cyfiawnder yn cyflogi tua 16,000 o bobl. Felly mae hyn yn fater o fod yn uchelgeisiol i Gymru a gweld y maes cyfreithiol fel rhan o’r economi, nid mater cyfansoddiadol yn unig.”

Dywedodd Simon Thomas ei bod hi’n “anorfod” y bydd cyfreithiau Cymru a Lloegr yn gwahanu wrth i ddeddfau newydd gael eu creu a bod perygl y bydd awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig yn datblygu mewn “modd ad hoc a direol” oni bai bod gwleidyddion yn mynd i’r afael â’r pwnc.