Rob Howley
Mae Rob Howley, hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at y cyfle i herio’r Wallabies eto ar ôl i’r Crysau Cochion golli’r gyfres o dair gêm o drwch blewyn yn Awstralia.
“Gawn ni chwarae nhw eto’r wythnos nesa, plîs?” meddai mewn munud o gellwair ar ôl y gêm ddoe.
“Dwi’n falch iawn o’r grŵp hwn o chwaraewyr ac mae llawer o bethau da wedi ymddangos dros y tair wythnos diwethaf a ddylsa wneud iddyn nhw deimlo’n falch o’u hymdrechion,” meddai.
“Fe ddylsen ni wedi rheoli rhai eiliadau yn y gêm yn well. Ond fe ddaw’r eiliadau hynny eto yng Nghyfres yr Hydref ac yn y Chwe Gwlad, a dwi’n gobeithio y byddwn ni wedi dysgu sut i wneud y gorau ohonyn nhw.”
“Mae’r parch maen nhw wedi ei ddangos tuag aton ni yma wedi bod yn wych, ond mae’r tîm hwn yn well na hynny. Da ni am ennill gemau rhyngwladol, a’r hyn sy’n rhaid i chi ei wneud pan da chi’n ennyn parch ydi dod i le fel Awstralia ac ennill.”