Mae Archdderwydd Cymru, Jim Parc Nest, wedi gosod her i Awdurdod Addysg Sir Ddinbych yn ei araith yn ystod seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013 prynhawn ʼma.

“Fe’n calonogir gan y cynnydd cyson yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir,” meddai.

“Hefyd, y mae’r cynnydd hwn yn ein sobri gan ei fod yn gosod her arbennig i’r awdurdod addysg ymroi i gwrdd â’r galw.

“Y nod anrhydeddus y dylai Awdurdod Addysg Sir Ddinbych anelu ato yw bod pob plentyn o dan ei ofal yn cael y cyfle i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.”

Soniodd hefyd yn ei araith am y dramodydd disglair o’r ardal, Twm o’r Nant, a fu’n feistr ar ddychan deifiol trwy gyfrwng ei anterliwtiau.

“Yn wyneb yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac i Gymru ar hyn o bryd, y mae dirfawr angen i ni gael ein hanesmwytho gan dafod llym Twm o’r Nant, a gwrando ar un o’i gymeriadau amlycaf yn ei dweud hi, sef Syr Tom Tell Truth,” meddai’r Archdderwydd.

Dywedodd y byddai Syr Tom Tell Truth wedi sylwi nad yw Cymru i’w gweld ar faner Jac yr Undeb sydd wedi bod yn chwifio drwy wledydd Prydain yn ystod taith y Fflam Olympaidd, a hefyd yn tynnu sylw at y cerddi a chwaraeir gan y band, fel Rule Brtannia, a Duw gadwo’r Frenhines. Byddai hefyd wedi sylwi mai Duw gadwo’r Frenhines fydd yr anthem a genir pan ddethlir ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain. “Dethlir llwyddiant medalydd aur o Gymru drwy ganu anthem Lloegr.”

“ Yn nhraddodiad y syrcas, mae ’na acrobat ar y fandwagen Brydeinig hon,” meddai Jim Parc Nest.

“Acrobat geiriol yw, a’i gamp gyfrwys, haerllug yw cyfystyried Prydeindod a Seisnigrwydd, a’n hudo i alw gwledydd ynysoedd Prydain yn ‘wlad’, a thrigolion ynysoedd Prydain yn ‘genedl’.

“Mae’r Bi-Bi-Ec, yr ydym yn talu amdani, yn cyflawni’r acrobatiaeth eiriol hon yn gyson yn y bwletinau newyddion, yn y rhaglenni dogfen dirifedi ar fawredd Prydeindod, ac ym mwletinau darogan y tywydd – â’u brawddegau cwbl ddisynnwyr fel ‘the east of the country will be dry but there will be showers in Wales.’

“Daethom yma heddiw â’n wagen arbennig ein hunain i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2013.  Ac fe’ch anogaf i neidio arni – nid i fynd gyda’r llif presennol o Brydeindod ond i’w wrthsefyll â thon o Gymreictod na welodd Sir Ddinbych ei thebyg ers amser. Chwifiwn y Ddraig Goch â balchder, a chanwn ein hanthem, sy’n erfyn ar i’n hen iaith barhau.”