Llys y Goron Abertawe
Dywedodd arbenigwr mewn labordy ysbyty oedd wedi darganfod fod babi, a fu farw’n ddiweddarach, yn cael ei wenwyno gyda chyffuriau , bod y system sy’n cael ei ddefnyddio i edrych samplau yn “ddi-feth”.
Mae Michelle Smith, 34, wedi ei chyhuddo o lofruddio ei merch chwe wythnos oed, Amy Smith, yn eu cartref yn Nhreforys, Abertawe.
Ond clywodd Llys y Goron Abertawe bod y labordy wedi methu â throsglwyddo canlyniadau prawf wrin oedd yn dangos bod Amy yn cael ei gwenwyno gan ei mam.
Cafodd y ferch fach ei gweld gan ymwelydd iechyd ar y diwrnod bu farw ar 9 Tachwedd, 2007, a dywedodd ei bod yn dod yn ei blaen yn “dda iawn”.
O fewn oriau, cafodd parafeddygon eu galw ar frys i’r tŷ ond bu’n rhaid iddyn nhw roi’r gorau i geisio achub Amy.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod prawf gwaed bythefnos cyn iddi farw yn dangos bod y cyffur lladd poen dihydrocodiene yn ei system.
Ond ni chafodd canlyniad y prawf ei phasio ’mlaen i’w meddyg ac mae’n debyg bod Amy wedi cael o leiaf un dos arall o’r cyffur.
‘Camgymeriadau yn y labordy yn digwydd mewn bywyd’
Bu Sasha Wass QC, ar ran yr amddiffyniad, yn holi’r arbenigwr am y broses sy’n cael ei ddefnyddio i yrru samplau o un ysbyty i’r llall.
Dywedodd yr ymgynghorydd Anwar Gunnerberg, sy’n goruchwylio’r profion yn y labordy yn Ysbyty Treforys, Abertawe, fod popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau fod pob sampl yn cael eu labelu’n gywir ac yn cyd-fynd â’r dogfennau priodol pan maen nhw’n cael eu trosglwyddo.
Clywodd y rheithgor yn gynharach bod sampl Amy wedi cael ei anfon o Ysbyty Singleton yn Abertawe i labordy yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Pan oedd angen profion pellach cafodd y sampl ei anfon i labordy ym Mhenybont -ar-Ogwr.
Roedd Dr Annwar Gunnerberg yn teimlo fod angen gyrru’r sampl i labordy arbenigol gan fod y profion gwreiddiol wedi dangos fod wrin Amy yn cynnwys y cyffur ‘opiate’.
Dadl Sasha Wass yw bod unrhyw un, hyd yn oed o statws Dr Gunnerberg, yn gallu gwneud camgymeriadau.
Dywedodd Dr Gunnerberg fod camgymeriadau yn y labordy yn digwydd o bryd i’w gilydd.
“Mae camgymeriadau yn y labordy yn digwydd mewn bywyd,” meddai’r ymgynghorydd meddygol. “Mae’n amlwg fod gwallau’n gallu digwydd o bryd i’w gilydd.”
Dydi’r rheithgor heb glywed unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod y sampl dan sylw, neu unrhyw rai eraill, wedi cael eu cymysgu mewn unrhyw ffordd.
Mae Michelle Smith yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth a chyhuddiad arall o achosi neu ganiatáu marwolaeth y plentyn.