Mae gweithwyr yng nghwmni ceir Ford yn cynnal streic heddiw dros gyflogau a phensiynau.
Dywedodd undeb Unite fod ei aelodau yn “gandryll” dros gynlluniau Ford i gau cynllun pensiwn cyflog terfynol i weithwyr newydd ac i leihau eu cyflog o flwyddyn nesaf ymlaen.
Mae Unite yn cynrychioli 1,200 o weithwyr swyddfa cwmni Ford, a dywedodd yr undeb y bydd y streic undydd yn cael effaith ar safleoedd Ford ar draws Prydain, gan gynnwys Penybont-ar-Ogwr.
Dywedodd Roger Maddison o Unite na fydd yr Undeb yn caniatáu i Ford greu “gweithlu dau ddosbarth ar fater cyflogau a phensiynau.”
“Rydym ni’n gryf yn erbyn cynllun Ford i gau cynllun pensiwn cyflog terfynol achos yn y pen draw bydd Ford am gau’r cynllun cyfan” meddai Roger Maddison.
“Mae angen i’r cwmni ddangos ei fod yn ymrwymo i Brydain trwy fuddsoddi yn ei weithlu ym Mhrydain. Mae Ford hefyd am barhau gyda chynllun i dalu llai i weithwyr newydd am wneud yr un gwaith â’r staff presennol ac mae hyn yn annerbyniol.
“Mae gan Brydain y gwerthiant gorau sydd gan Ford yn Ewrop a does dim esgus dros ymosod ar amodau cenhedlaeth newydd o staff y cwmni.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ford nad yw mwyafrif helaeth staff y cwmni yn rhan o’r anghydfod, ond bod Ford yn barod i barhau i drafod gyda’r undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr sy’n cynnal y streic heddiw.