Mae cyn-gynghorydd wedi ei garcharu am naw wythnos, am hawlio budd-daliadau ei wraig ar ôl iddi farw.

Roedd Michael Mills o Faesglas yn Sir y Fflint wedi hawlio £21,357 ar gam wedi iddo orfod diffodd peiriant cynnal bywyd ei ddiweddar wraig, Brenda ym mis Ionawr 2010. Roedd wedi pledio’n euog i 14 cyhuddiad o dwyll yn Llys Ynadon y Fflint y mis diwetha’.

Yn ei amddiffyniad, fe glywodd y llys ei fod wedi cael trafferth dod i delerau gyda marwolaeth ei wraig y bu’n briod â hi am 44 mlynedd.

Wedi iddi farw, fe fu’n mynd i’r swyddfa bost yn ddeddfol bob wythnos er mwyn defnyddio ei cherdyn i hawlio taliad o £40 yr wythnos ynghyd â lwfans anabledd gwerth £400 y mis.

Cyfanswm y taliadau a hawliodd Michael Mills yn anghyfreithlon oedd £21,357, sef £4,066 o bensiwn y wladwriaeth, £2,089 o lwfans pensiwn, £5,239 o lwfans gofal, a £9,962 o lwfans anabledd.