Llys y Goron Abertawe
Clywodd rheithgor heddiw bod mam wedi gwenwyno ei babi gyda chyffur  lladd poen ar gyfer oedolion.

Mae Michelle Smith, 34, wedi ei chyhuddo o lofruddio ei merch chwe wythnos oed, Amy Smith, yn eu cartref yn Nhreforys, Abertawe.

Cafodd y ferch fach ei gweld gan ymwelydd iechyd ar y diwrnod bu farw ar 9 Tachwedd, 2007, a dywedodd ei bod yn dod yn ei blaen yn “dda iawn”.

O fewn oriau, cafodd parafeddygon eu galw ar frys i’r tŷ ond bu’n rhaid iddyn nhw roi’r gorau i geisio achub Amy.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod prawf gwaed bythefnos cyn iddi farw yn dangos bod y cyffur lladd poen dihydrocodiene yn ei system.

Ond ni chafodd canlyniad y prawf ei phasio mlaen i’w meddyg ac mae’n debyg bod Amy wedi cael o leiaf un dos arall o’r cyffur.

Wrth ddisgrifio’r methiant i wneud hynny, dywedodd Christopher Clee QC ar ran yr erlyniad ei bod yn “siomedig” nad oedd rhywun wedi tynnu sylw’r meddygon at ganlyniadau’r prawf.

“Roedd darganfod dihydrocodiene nid yn unig yn anarferol iawn, ond hefyd yn arwyddocaol iawn,” meddai.

Mae sgil effeithiau’r cyffur yn cynnwys blinder, anadl yn arafu, a methiant cardiofasgwlaidd a all arwain at goma, clywodd y rheithgor.

Roedd Smith a’i gŵr, Christopher Smith, wedi cael presgripsiwn am feddyginiaeth oedd yn cynnwys y cyffur cyn hynny.

Ar y diwrnod y bu farw, roedd Smith yn gofalu am Amy a’i dwy ferch arall ar ei phen ei hun.

Mae Smith yn honni ei bod wedi mynd ag Amy i’w gwely yn y prynhawn a’i darganfod yn farw awr yn ddiweddarach.

Wrth iddi gario ei phlentyn i lawr y grisiau, fe ddaeth ei gŵr adref o’r gwaith meddai.

Mae Smith yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth a chyhuddiad arall o achosi neu ganiatáu marwolaeth y plentyn.