Andrew Lansley
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn San Steffan wedi dweud fod gan Lywodraeth Cymru “sawl her ddifrifol” ym maes iechyd ac y dylen nhw ddilyn yr hyn mae llywodraeth Llundain yn ei wneud.

Dywedodd Andrew Lansley y byddai’n well i Lywodraeth Lafur gynyddu’r gwariant ar iechyd, “fel mae’r Llywodraeth Glymblaid yn ei wneud yn Lloegr”, yn hytrach na chyflwyno toriadau cyllid o 6.5%.

Roedd Andrew Lansley yn ymateb i gwestiwn ar lawr y senedd gan David Davies, Aelod Seneddol Mynwy, oedd yn llongyfarch yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd am “fenter arall sydd yn sicrhau fod gan gleifion yn Lloegr gwell gofal iechyd na chleifion yng Nghymru.”  Roedd yn cyfeirio at Gytundeb Cyfrifoldeb dros Iechyd yr adran iechyd yn Lloegr.

Dywedodd Andrew Lansley hefyd fod pobol yng Nghymru yn llai bodlon gyda’r gwasanaeth iechyd gwladol na phobol yn Lloegr.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Aelod Seneddol Llafur oedd yn nodi fod cwymp wedi bod yn nifer y bobol sy’n fodlon gyda’r gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr yn ystod blwyddyn gyntaf Andrew Lansley yn Ysgrifennydd Iechyd.

Celwyddon Torïaidd’

Yn dilyn y feirniadaeth gan yr aelod Cabinet dywedodd ffynhonnell sy’n agos at Lywodraeth Cymru wrth Golwg360 nad ydyn nhw’n ymateb i “gelwyddon Torïaidd.”