James Adams
Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi gwadu eu bod wedi ceisio cuddio’r gwirionedd am honiadau o gam-drin plant mewn ysgolion yn y sir.

Ac, yn ôl James Adams, does yr un achos o’r fath wedi bod ers 2009 – pan ddaeth hi’n amlwg bod plant wedi cael eu cloi mewn ystafelloedd bychain er mwyn eu tawelu.  Roedd dwylo un wedi cael eu clymu.

Wrth siarad ar Radio Wales, fe ddywedodd y cynghorydd fod camre wedi dechrau cael eu cymryd i wella’r drefn o fewn y sir ond nad ydyn nhw’n “agos o gwbl” at orffen y gwaith.

Roedd yn siarad ar ôl cyfarfod rhyngddo ddoe â’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas.

Mae wedi cael hyd at ddiwedd yr wythnos nesa’ i ymateb yn foddhaol i lythyr ganddyn nhw yn gofyn am weithredu i ddatrys yr helynt.

‘Camau disgyblu ar droed’

Fe wrthododd James Adams ateb cwestiynau’n awgrymu y dylai uwch swyddogion, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Addysg, golli eu swyddi ond fe ddywedodd bod camau disgyblu ar droed.

“Fydden ni fyth o blaid gweithredoedd a fyddai’n arwain at glymu plentyn ac mae’n rhaid i ni fynd at wraidd hyn,” meddai.

Doedd e ddim yn fodlon trafod rhagor tra bod ymchwiliadau gan yr heddlu’n parhau i rai o’r digwyddiadau.

Mae dadlau wedi bod am ‘ystafelloedd tawel’ yn rhai o ysgolion y sir, yn ogystal â dau achos o stafelloedd dan glo, fe ddaeth hi’n amlwg bod 18 o lefydd tawel mewn ysgolion eraill, ond mae’r cyngor yn gwadu mai disgyblu yw pwrpas y rheiny.