Sarah Rochira
Mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru wedi galw am gyfraith gref i warchod pobol oedrannus rhag cael eu cam-drin.
O ran maint y wlad, mae mwy o achosion o gam-drin pobol hŷn yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, meddai Sarah Rochira.
Mae’n dweud bod mynd i’r afael â’r broblem yn “flaenoriaeth allweddol” wrth i’r Llywodraeth baratoi Bil Gwasanaethau Cyhoeddus newydd.
Roedd hi’n croesawu’r ffaith y bydd hwnnw’n delio gyda cham-drin pobol oedrannus ond yn rhybuddio hefyd bod angen darpariaethau cryf i atal y broblem.
‘Hynod bwysig’
“Mae’n hynod bwysig bod y ddeddfwriaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn arwain at y canlyniadau gorau i bobl hŷn a all fod mewn perygl o niwed,” meddai.
“Mi fyddaf i’n gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill i wneud yn siŵr mai dyma fydd yn digwydd.”
Roedd y Comisiynydd yn siarad cyn digwyddiad yn Y Barri i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobol Hŷn.