Llun: Marian Delyth
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf ynglŷn â pha ffyrdd sydd ar gau yng Ngheredigion yn dilyn y llifogydd bore ʼma.

Y ffyrdd sydd ar gau ar hyn o bryd ydi:

A487 Derwenlas, A487 Pont Ddyfi, A487 Talybont, A487 Bow Street, A487 Glandyfi, A487 Comins Coch, A44 Capel Bangor, A44 Lovesgrove, A4128 cylchfan Morrisons, Aberystwyth, C1013 Penbontrhydybeddau – Cwmerfyn; U1086 Talybont – Nant-y-moch (wedi cau yn dilyn tirlithriad) a dim ond cerbydau 4×4 sy’n gallu defnyddio’r B4572.

Mae’r heddlu yn cynghori pawb i osgoi’r ffyrdd a’r ardaloedd uchod, ac i gadw’n glir o unrhyw ddŵr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer Afon Teifi yn Llanbedr pont Steffan a Llanybydder, Dyffryn Dyfi a Machynlleth; Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian, ar gyfer Afon Rheidol yn Aberystwyth a’r Afon Clarach yn Llangorwen.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth eu bod nhw hefyd yn pryderu am rannau o’r Rheidol sy’n parhau i godi, a’r afon Fathew ym Mryncrug.

“Mae pum modfedd o law wedi disgyn mewn 24 awr yn yr ardal hon,” meddai llefarydd ar ran yr Asiantaeth. “Rydym yn pryderu yn awr am afon Fathew ym Mryncrug, i’r gogledd o Dalybont, sy’n codi’n sydyn, gan fygwth 20 o gartrefi, ac mae’r Teifi a’r Dulas yn Llanbedr pont Steffan yn parhau i godi.”

Dywed yr heddlu fod o amgylch 150 o bobl yn ddiogel mewn canolfannau derbyn sydd wedi eu hagor yn arbennig. “Rhaid canmol y cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd am eu hymateb sydyn ac effeithiol i’r llifogydd,” meddai llefarydd.