Mae Neil Jenkins, hyfforddwr cicio tîm rygbi Cymru, yn credu fod yr amser wedi dod i Gymru herio hanes gan guro tîm Awstralia heddiw yn eu gwlad eu hunain am y tro cyntaf ers 25 mlynedd.

“Mi wnaethon ni’n eitha’ da yng Nghwpan y Byd, ac yn dda iawn trwy ennill y Gamp Lawn, ond dyma’r cam nesaf ar gyfer unrhyw dîm, ennill yn hemisffer y de,” meddai.

“Mae’n gyfle inni, ond ni allwn ei ennill ar bapur. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar ein cyfleoedd a chyfyngu ar eu cyfleoedd nhw.”

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Suncorp, Brisbane, gyda’r gic gyntaf am 11.00 bore ʼma.