Llun: Sion Richards
Mae cynhyrchydd teledu yn cwyno bod Eisteddfod yr Urdd “yn rhyw fath o gyfrinach i’r Cymry Cymraeg”.

Roedd Catryn Ramasut, sy’n bartner i’r canwr Gruff Rhys, yn cwyno na chafodd plant o slymiau Nairobi berfformio ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher yr Eisteddfod, am y byddai’n torri polisi iaith yr Eisteddfod.

Fe gawson nhw a tua deugain o ddisgyblion o Nefyn berfformio cân Gymraeg a Swahili ar y llwyfan perfformio ar y maes. Roedd cwmni wedi’i ffilmio yn rhan o’r gyfres S4C O Nefyn i Nairobi – roedd y pedwar disgybl o Nairobi wedi gefeillio gyda phedwar o ddisgyblion o Ysgol Nefyn ers blwyddyn.

‘Bron â chrio’

“Roeddwn i bron â dechrau crio, maen nhw wedi gweithio’n galed iawn ac maen nhw’n haeddu cael clod,” meddai Catryn Ramasut, sydd â chwmni teledu ei hun yng Nghaerdydd. “Yn anffodus, roedden nhw’n methu â pherfformio ar y prif lwyfan.

“Rydyn ni wedi ffilmio plant yn Nairobi yn canu hefyd, fel eu bod nhw’n gallu bod yn rhan o’r perfformio a byddai angen sgriniau i wneud hynny. Ond oherwydd polisi iaith yr Urdd, doedden nhw ddim yn cael canu yn Swahili ar y prif lwyfan!”

Dywedodd fod yr Urdd wedi dweud wrthi y byddai’r gân Gymraeg/Swahili yn mynd yn groes i bolisi iaith yr Eisteddfod, ac nad oedden nhw wedi haeddu eu lle ar y prif lwyfan trwy fynd trwy’r rhagbrofion ac ati.

Mae Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn cadarnhau hyn, gan ategu bod perfformiwr llwyfan y Pafiliwn yn cael eu gwadd yno trwy ennill eu lle yn yr eisteddfodau  taleithiol.

Mor wyn – sylwadau Catryn Ramasut

“Mae’r gân yn ddwy funud a hanner o hyd, a’i hanner hi yn Gymraeg, ac eto doedden nhw ddim yn barod i blygu’r rheolau, sydd bach yn siomedig. Roedden nhw’n gofyn pam bod y plant yma’n cael perfformio a nhwthau heb ennill eu lle ar y llwyfan achos eu bod nhw ddim wedi mynd trwy ragbrofion ac ati. Wel, achos eu bod nhw’n dod o slym yn Nairobi! Dyna pam. Roedden ni jest eisiau dod ag ychydig o amrywiaeth diwylliannol i’r Eisteddfod.

“Mae hi mor wyn yma. Dyw hi ddim yn hil gymysg yma o gwbl. Dyw hi ddim yn adlewyrchu sut y mae Cymru erbyn hyn. Mae angen bod yn fwy cynhwysol, yn hytrach na bod yr Eisteddfod yn rhyw fath o gyfrinach i’r Cymry Cymraeg.”

Stori: Non Tudur